Abertawe ar y Sgrîn: Pam y mae’r ddinas yn lleoliad delfrydol ar gyfer ffilmio
Nid cefndir yn unig yw Abertawe; mae’n datblygu’n gyflym fel lleoliad sy’n trawsnewid diwydiant sgrîn Cymru. Wrth i fodelau cynhyrchu esblygu a chyllidebau leihau, mae dinasoedd fel Abertawe mewn sefyllfa unigryw i arwain y ffordd wrth wneud ffilmiau cost-effeithiol a chreadigol.
Mae amrywiaeth weledol, cynllun cryno a rhwydwaith cynyddol o weithwyr creadigol proffesiynol Abertawe’n golygu bod y ddinas yn fwy na lleoliad yn unig; mae’n rhan o’r naratif. Er bod Caerdydd yn aml yn cael y sylw, mae momentwm yn cynyddu ar draws Cymru, ac mae Abertawe’n cynnig cyfuniad o adnoddau nad ydynt yn cael eu defnyddio i’r eithaf fel asedau gweledol, gwybodaeth am y diwydiant ac egni cymunedol sy’n helpu i arwain y dyfodol o ran gwneud ffilmiau yn y rhanbarth.
Lleoliad Naturiol ar gyfer y Diwydiant Ffilmiau
Mae Abertawe eisoes wedi ennill clod fel cyrchfan ffilmio poblogaidd. Mae prosiectau diweddar yn cynnwys ffilmiau poblogaidd fel Mr Burton; Havoc gyda Tom Hardy ar Netflix; a’r ffilm led-fywgraffyddol Set Fire to the Stars am Dylan Thomas – yn ogystal â chyfresi fel Dope Girls ar BBC; A Discovery of Witches ar Sky; Until I Kill You ar ITV1; a Da Vinci’s Demons – cyfres â chanddi gyllideb o £20 miliwn a gomisiynwyd gan y rhwydwaith Americanaidd Starz.
Mae’n amlwg o’r rhestr amrywiol hon fod Abertawe’n apelio at wneuthurwyr ffilmiau oherwydd ei bod yn anhygoel o amlochrog ac ymarferol. Mae’r ddinas yn cynnig amrywiaeth enfawr o leoliadau – o ddociau diwydiannol a phensaernïaeth hanesyddol i arfordiroedd eang a thirweddau trefol garw, gan ddarparu amrywiaeth weledol mewn ardal anhygoel o gryno.
Ychydig o funudau i ffwrdd, mae penrhyn Gŵyr yn cynnig hyd yn oed mwy o botensial sinematig. Mae’r Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol ddynodedig yn cynnig golygfeydd trawiadol heb eu difetha. Mae’r cyfuniad di-dor hwn o dirweddau trefol a gwledig yn caniatáu i gynyrchiadau bontio rhwng lleoliadau’n gyflym, gan arbed amser gwerthfawr a chostau ar adeg lle mae cyllidebau cynhyrchu’n lleihau.
Mae lleoliad strategol Abertawe ar hyd yr M4 yn golygu y gall timau cynhyrchu gael mynediad i Gaerdydd, Bryste a Llundain yn hawdd. Yn y cyfamser, mae costau cynhyrchu lleol (ffïoedd lleoliad, llety, gwasanaethau) yn parhau i fod yn sylweddol is na chostau mewn dinasoedd mwy, sy’n golygu bod Abertawe’n lleoliad delfrydol ar gyfer ffilmiau annibynnol a chynyrchiadau ar raddfa fwy.
Yn bwysicaf oll efallai, mae cymuned greadigol Abertawe’n dod â brwdfrydedd go iawn ac ysbryd cydweithredol i’r sgrîn. Yn ogystal â chefnogi’r diwydiant sgrîn, mae’r ddinas yn helpu i’w fywiogi.
"Nid dinas yn unig yw Abertawe. Mae'n set ffilmiau barod. O leoliad ôl-ddiwydiannol garw’r dociau i'r panoramas arfordirol eang sydd ychydig o funudau i ffwrdd, mae'n cynnig cymysgedd prin o dirweddau a gweadau sy'n rhoi hyblygrwydd mawr i gynyrchiadau o ran yr ochr weledol ac wrth adrodd straeon. Rydym wedi gweld yn uniongyrchol sut gellir defnyddio lleoliadau yn Abertawe ar gyfer unrhyw beth, o strydoedd yn Llundain i ddiffeithwch pell. Mae ymdeimlad go iawn o bosibilrwydd creadigol yn Abertawe - a chymuned leol sydd wir yn croesawu cynyrchiadau. Mewn diwydiant lle mae ystwythder ac arloesedd yn bwysicach nag erioed, gall dinasoedd fel Abertawe arwain y ffordd - nid fel lleoliadau’n unig, ond fel canolfannau ar gyfer cynhyrchiad creadigol."
— Gabriella Ricci, Uwch-swyddog Gweithredol Cynhyrchu Bad Wolf.
Ar Flaen y Gad mewn Diwydiant Newidiol
Gyda newidiadau dramatig yn y diwydiant sgrîn yn y blynyddoedd diwethaf, bu newid amlwg mewn cyfeiriad o ddefnyddio ffynonellau ariannu penodol unigol i ffynonellau ariannu mwy cymhleth sy’n cynnwys sawl partner. Mae cynyrchiadau heddiw yn aml yn cael eu hariannu gan gymysgedd o grantiau cyhoeddus, partneriaethau rhyngwladol a buddsoddiad preifat, sy’n golygu bod yn rhaid i gynhyrchwyr fod yn fwy ystwyth – ac yma yn Abertawe, mae cwmnïau fel Severn Screen a Bad Wolf yn ffynnu drwy ddefnyddio’r model newydd hwn, ac yn cynhyrchu cynnwys uchelgeisiol er gwaethaf cyllidebau sy’n lleihau’n rheolaidd.
Cefnogwyd y cynhyrchiad Mr Burton gan 13 o arianwyr, er enghraifft. Ond o ganlyniad i dirweddau syfrdanol, sgript drawiadol a thalent leol ar y sgrîn ac oddi arni, daeth y cynhyrchiad at ei gilydd fel dathliad go iawn o greadigrwydd Cymreig. O gynyrchiadau fel Y Gwyll i Steel Town Murders, mae’r rheini a ffilmiwyd ar draws Cymru yn rhoi straeon a chymunedau lleol ar y sgrîn.
Ond mae buddsoddiad lleol sylweddol mewn datblygu sgiliau wrth wraidd hyn hefyd.
Mae dros 200 o hyfforddeion wedi cymryd rhan mewn mentrau fel Screen Alliance Wales (y sefydliad nid er elw sy’n cydnabod potensial byd-eang y diwydiant ffilm a theledu yng Nghymru), y mae canran drawiadol ohonynt, sef 83%, yn parhau i ymwneud â’r diwydiant wedyn. Mae mentrau wedi’u targedu wedi helpu i gynnal momentwm gyrfa drwy gydol heriau ar draws y diwydiant megis y pandemig a streiciau awduron diweddar, gan sicrhau goroesiad y diwydiant ar draws y wlad yn y dyfodol – a chan fod 93% o’r rheini sy’n gadael addysg yn defnyddio’u sgiliau yn y byd proffesiynol, mae Cymru’n meithrin gweithlu yn ogystal â chreu cynnwys.
Felly, beth nesaf?
Mae Abertawe a’r ardaloedd cyfagos yn cynnig ecosystem gref ar gyfer y diwydiant sgrîn, gan gyfuno cyfleoedd i arddangos talent â chymorth o’r radd flaenaf. Mae gan y rhanbarth gyfleusterau stiwdio, gweithlu llawrydd medrus, sefydliadau addysg blaenllaw a lleoliadau hygyrch ar gyfer anghenion ffilmio amrywiol; a nawr, bydd Abertawe Greadigol yn hwb canolog, gan ddod â’r diwydiant, addysg ac awdurdodau lleol ynghyd i hyrwyddo’r sector creadigol a meithrin twf yn y tymor hir.
Mae cynhyrchwyr yn pwysleisio pa mor hanfodol yw ffilmio ym mhob cwr o’r wlad, nid yng Nghaerdydd neu ganol Cymru yn unig, ond mewn siroedd gwledig hefyd. Mae cynyrchiadau diweddar yn llawer mwy na chyflawniadau creadigol; maent yn dystiolaeth amlwg o’r effaith ddiwylliannol ac economaidd y mae’r sector sgrîn yn ei chael ar y rhanbarth. Drwy ddewis ffilmio yma, mae’r prosiectau hyn yn hyrwyddo talent a gwasanaethau lleol, ac ymdeimlad o hunaniaeth.
Er mwyn i sector sgrîn Abertawe barhau i ffynnu, mae buddsoddiad cyson mewn talent, isadeiledd ac amlygrwydd yn hanfodol, ac mae lansio rhwydwaith newydd Abertawe Greadigol yn gam mawr ymlaen, gan gysylltu busnesau a gweithwyr proffesiynol, arddangos lleoliadau a gwasanaethau lleol, a chreu cyfleoedd newydd ar draws yr economi greadigol a diwylliannol.
"Nid proses dros nos yw hon, ond marathon. Mae angen hyfforddiant, cefnogaeth a phobl o'ch cwmpas i ddweud eich bod yn barod. Ewch amdani. Mae egni creadigol pwerus yma - a nawr mae gennym yr isadeiledd i ategu hynny"
— Allison Dowzell OBE, Rheolwr Gyfarwyddwr Screen Alliance Wales