10 Ffordd o Gysylltu a chael sylw fel Darpar Berson Creadigol yn Abertawe
Mae Abertawe’n llawn talent greadigol – o wneuthurwyr ffilmiau a darlunwyr i ddatblygwyr gemau annibynnol a gwneuthurwyr artisan.
Os ydych yn newydd i’r gymuned greadigol mewn dinas llawn syniadau, sut ydych chi’n cael sylw mewn ffordd arwyddocaol?
Mae gwella eich amlygrwydd yn ymwneud â mwy na marchnata yn unig; mae’n ymwneud â chysylltu â’r gymuned leol, datblygu eich crefft, a bod yn gyson mewn ffyrdd sy’n teimlo’n ddilys. Os mai newydd ddechrau ydych chi, dyma deg ffordd o wella eich proffil creadigol yn Abertawe.
1. Cysylltu â Rhwydweithiau Lleol, Ar-lein ac yn Bersonol
Mae cymuned greadigol Abertawe’n ffynnu ar gydweithio ac argymhellion ar lafar. Ceisiwch fynd i gyfarfodydd lleol a digwyddiadau rhwydweithio neu gymryd rhan mewn digwyddiadau sy’n benodol i’r sector. Does dim angen i chi fod ym mhob man; cysondeb, bod yn weladwy ac ymuno â’r sgwrs sy’n bwysig.
Cofrestrwch ar gyfer Abertawe Greadigol i greu eich proffil unigryw eich hun a chael cip ar y digwyddiadau diweddaraf.
"Does dim byd cystal â chyfarfod â phobl a chael cyfle i siarad â nhw. Ond y cyfarfodydd gorau yn strategol yw'r rhai sydd wedi'u curadu, lle mae rhywun yn gyfrifol am ddod â phobl at ei gilydd i sicrhau bod pawb yn siarad!"
— Danny KilBride, Cerddor a Rheolwr Trac Cymru
2. Defnyddio Lleoliadau Abertawe i Adrodd eich Stori eich Hun
O draethau a glannau i farchnadoedd lliwgar a lleoliadau diwydiannol, mae Abertawe’n gyfoethog yn weledol. Defnyddiwch y ddinas ei hun fel cefndir ar gyfer eich cynnwys – mae ffotograffiaeth, fideo, dyluniad ac adrodd straeon i gyd yn elwa o ymdeimlad o le.
Cymerwch gip ar y post blog Abertawe ar y Sgrîn am ysbrydoliaeth!
3. Cydweithio ar draws Sectorau
Edrychwch y tu hwnt i’ch maes eich hun am ysbrydoliaeth a phartneriaeth. Beth am gydweithio gyda ffotograffwyr, cerddorion, awduron, dylunwyr neu hyd yn oed caffis, siopau a lleoliadau lleol?
Gall cydweithio agor drysau i gynulleidfaoedd newydd, ysgogi syniadau newydd a chryfhau’r gymuned greadigol. Gall y partneriaethau gorau ddatblygu i fod yn berthnasoedd parhaol hyd yn oed, yn hytrach na phost neu brosiect untro yn unig.
4. Cymryd Rhan mewn Digwyddiadau Lleol
Mae Abertawe’n gartref i farchnadoedd, llwybrau celf, cerddoriaeth fyw a gwyliau fel Gŵyl Ymylol Abertawe. P’un a ydych yn cynnal stondin neu weithdy neu’n mynd i ddigwyddiad ac yn rhwydweithio, mae digwyddiadau lleol yn gyfle gwych i dynnu sylw.
Ond byddwch yn strategol – nid yw pob digwyddiad yn addas ar gyfer pob person creadigol; canolbwyntiwch ar y digwyddiadau sy’n cyd-fynd fwyaf â’ch gwaith neu’ch cynulleidfa darged.
"Byddwch yn bresennol, byddwch yn chi'ch hun a byddwch yn gyson... mae pobl yn cysylltu â phobl cyn cysylltu â gwasanaethau."
— Lloyd Stranaghan, Ffotograffydd a Chyfarwyddwr Creadigol
5. Rheoli eich Presenoldeb Ar-lein
Eich presenoldeb ar-lein yw eich cyfle i arddangos eich talent – gwnewch iddo gyfrif. Gwnewch eich gwefan yn addas i ffonau symudol ac yn hawdd ei defnyddio, a sicrhewch eich bod yn ei diweddaru’n rheolaidd. Siaradwch yn uniongyrchol â’ch cynulleidfa gan ddefnyddio iaith blaen a pherthnasol.
Dysgwch am optimeiddio peiriannau chwilio fel y gall pobl sy’n chwilio am sgiliau fel eich rhai chi ddod o hyd i chi. Ceisiwch ddefnyddio brandio cyson ar draws eich gwefan a’ch cyfrifon cyfryngau cymdeithasol ac ar gyfeiriaduron fel Google Business Profile.
Y nod yw: bod yn amlwg ac yn hawdd ymddiried ynoch.
6. Byddwch yn Bresennol ar Gyfryngau Cymdeithasol
Mae llwyfannau fel Instagram, TikTok a Facebook yn wych ar gyfer rhannu’ch proses greadigol, eiliadau y tu ôl i’r llenni, a’r bersonoliaeth sy’n gwneud eich gwaith yn unigryw. Does dim angen i chi rannu cynnwys perffaith – byddwch yn bresennol ac yn onest.
Gwnewch yn siŵr bod eich disgrifiad yn nodi’n glir pwy ydych chi, a’i fod yn cynnwys dolen i’ch gwefan neu bortffolio fel y gall pobl archwilio mwy. A chofiwch ddarllen eich negeseuon yn rheolaidd; dydych chi byth yn gwybod pryd y gallai ymholiad newydd neu gysylltiad cyffrous godi.
"Rydyn ni’n defnyddio Instagram a Facebook yn aml iawn; maent wedi bod yn allweddol i ledaenu'r gair a denu cefnogwyr ffyddlon. Ond dydyn ni ddim yn ymdrechu i sicrhau bod popeth yn edrych yn berffaith. Rydyn ni'n dangos yr hyn sy'n digwydd, pwy sy'n perfformio, pethau go iawn. Mae straeon, cipolwg y tu ôl i'r llenni, a rhoi sylw i'r bobl sy'n ymwneud â ni yn creu argraff. Rydyn ni'n dangos pethau go iawn, ac mae hynny'n gweithio!"
— Jordan McGuire, Cyfarwyddwr Lleoliad yn The Bunkhouse
7. Rhannwch eich Stori â Chyfryngau Lleol
Mae lleoliadau cyfryngau, blogiau a gorsafoedd radio lleol yn aml yn chwilio am straeon personol a chymunedol – yn enwedig straeon teimladwy, doniol neu sydd â phwrpas. Meddyliwch am yr hyn sy’n gwneud eich gwaith yn berthnasol neu’n bynciol ar hyn o bryd a rhowch gynnig ar gysylltu â lleoliadau newyddion a golygyddion lleol drwy e-bost.
Mae Abertawe Greadigol hefyd yn derbyn blogiau gwadd gan bobl greadigol leol i’w cynnwys ar y wefan ac ar gyfryngau cymdeithasol.
8. Cynnal Digwyddiad Rhannu Sgiliau neu Ddosbarth Meistr
Oes gennych sgil y mae’n bosib y bydd eraill am ei ddysgu? Neu awgrymiadau da am sut i fod yn rhan o sector penodol? P’un a ydych yn ymwneud â dylunio, ffotograffiaeth, cyfansoddi caneuon neu rywbeth arall – gall addysgu gryfhau ffyddlondeb, magu hyder a meithrin perthnasoedd bywyd go iawn yn eich cymuned.
Hoffech chi gyflwyno mewn cyfarfod rhwydweithio Abertawe Greadigol sydd ar ddod? Cysylltwch â ni i rannu’ch syniadau!
9. Cael eich Cynnwys mewn Cyfeiriaduron Lleol
Helpwch bobl yn yr ardal i ddod o hyd i chi. P’un a ydych yn weithiwr llawrydd, yn cynnal stiwdio neu leoliad neu’n grŵp creadigol, mae’n werth cael eich cynnwys mewn cyfeiriaduron lleol neu gysylltu â hybiau creadigol a llwyfannau cymunedol.
A pheidiwch â cholli allan ar gyfleoedd am ddim; er enghraifft, gallwch greu proffil ar wefan Abertawe Greadigol a dechrau cysylltu â phobl yn eich ardal.
10. Adrodd eich Stori eich Hun am Abertawe
Mae cynulleidfaoedd yn Abertawe’n dwlu ar glywed gan bobl go iawn a chanddynt straeon go iawn. Rhannwch sut mae’r ddinas yn dylanwadu ar eich gwaith; efallai fod gennych hoff gymdogaeth, neu fentor sydd wedi dylanwadu arnoch, neu efallai yr hoffech drafod yr hyn y mae bod yn berson creadigol yn Abertawe’n ei olygu i chi.
Dangoswch eich personoliaeth a byddwch yn onest. Lleoedd a phobl yw hanfod eich stori.
"Mae gonestrwydd yn allweddol. Mae cynulleidfaoedd yn Abertawe'n ymateb i straeon go iawn a phobl go iawn."
— Mike Scott, sylfaenydd BrandSwansea